Dendro 09 © All Rights Reserved. Privacy Policy | Terms of Use
Sefydlwyd y prosiect hwn yn 2008 er mwyn darganfod mwy am hanes a datblygiad tai Tuduraidd a Jacobeaidd or 16eg ar 17eg ganrif yng ngogledd orllewin Cymru. Bydd yn gweithredu o 2009 hyd at 2012.
PAM FOD ANGEN DYDDIO HEN DAI CYMREIG
Cyflwyniad
Yng Nghymru mae enghreifftiau o adeiladau syn brin ac mewn perygl a godwyd cyn canol y 1600au; cofnod pensaerniol niwlog sydd ar gael ar gyfer y rhan fwyaf ohonynt. Roedd 1485 -1700 yn gyfnod allweddol yn natblygiad ffermydd iwmyn a stadau bonheddwyr, ac yn ystod y cyfnod hwnnw y sefydlwyd sylfeini tirwedd adeiledig ac amgylcheddol Cymru.
Pe byddech yn gweld tŷ or math yma
Y PROSIECT
a fyddech chin tybio ei fod yn cynnwys trysor ? or math yma?
Mae treftadaeth ddiwylliannol Cymru ar amgylchedd yn aml phroffil uchel ymhlith y rhai hynny syn ceisio hyrwyddo twristiaeth werdd neu niche a datblygiadau economaidd eraill ledled Cymru. Prin ywr wybodaeth am noddwyr y beirdd yr astudir cymaint ar eu gwaith, y rhai hynny a fu trwy eu hymdrechion yn gyfrifol am sefydlu cymaint on tirwedd syn destun cymaint o edmygedd. Rydym yn deall llai fyth am eu anheddau ar grymoedd economaidd ac eraill a bennai pryd, lle a sut y codwyd y cartrefi hyn. Hyd yn ddiweddar ni fu dull dibynadwy o ddyddio adeiladau, gan y gellid defnyddio arddulliau pensaernol dros gyfnod hir.
Mae dendrocronoleg ar gael bellach fel cyfrwng i alluogi dyddio nifer or adeiladau hyn, a thrwy hynny gynyddu ymwybyddiaeth a gwybodaeth fel y gallwn ddiogelu ein treftadaeth adeiledig gynnar yn well, a rhannu phobl leol ac ymwelwyr swyddogaeth bwysig yr adeiladau hyn yn y broses o ffurfio Cymru gyfoes. Maer Prosiect yn canolbwyntio ar Ogledd Orllewin Cymru, lle, hyd yma, mae llai o ddendrocronoleg wedii gynnal nag mewn rhannau eraill o Gymru. Mae llawer or hen adeiladau hyn mewn perygl o droin adfeilion. Bydd rhai eraill yn cael eu moderneiddio y tu hwnt i adnabyddiaeth. Mae prosiect llai a gynhaliwyd gan sefydliad arall yng Ngwynedd eisoes wedi dangos faint sydd ar l iw nodi ai ddyddio cyn ei bod yn rhy hwyr.
| Lecture |
| Rhiff |
| Rhiff 2 |
| Prosiect |
| Peilots |
| Amcanion |
| Addysg |
| Ariannu |
| Rheoli |
| Cynllunio |
| POLISIAU’R |
| Partneriaethau |
| Beddgelert |
| Bangor |
| Bangor 2 |
| Lecture |
| Rhiff |
| Rhiff 2 |
| Prosiect |
| Peilots |
| Amcanion |
| Addysg |
| Ariannu |
| Rheoli |
| Cynllunio |
| POLISIAU’R |
| Partneriaethau |
| Beddgelert |
| Bangor |
| Bangor 2 |