Dendro 09 © All Rights Reserved.  Privacy Policy | Terms of Use

Cartref. Croeso. Newyddion. y Ffrindiau. Gwirfoddoli. Phase 3. Y Prosiect . Dendrochronoleg. Cysylltiadau. Links.

Amcanion y Prosiect

 

  1. Nodi, samplo ar gyfer dyddio dendrocronoloegol, ac ymchwilio i hanesion nifer or tai neuadd Tuduraidd, adeiladau lloriog nenffyrch ac arddull Eryri a phlastai trefol ledled gogledd orllewin Cymru, sydd  choed gwreiddiol addas.

  2. Codi ymwybyddiaeth o agwedd treftadaeth adeiledig diwylliant Cymru yn yr ardal, a chynnwys cymunedau lleol.

   3. Rhannu canlyniadaur Prosiect yn eang, a thrwy hynny helpu i ddiogelur elfennau hyn o�n treftadaeth ar gyfer cenedlaethaur dyfodol, yn bobl leol ac yn ymwelwyr.

BETH SYDD AR Y GWEILL

  1. Cynnig hyfforddiant i unrhyw aelodau o gymunedau lleol fel y gallant nodi ac ymchwilio i adeiladau or fath yn eu hardal.

  2. Cael cydsyniad ysgrifenedig gan berchnogion adeiladau or fath syn dymuno bod yn rhan or Prosiect.

  3. Gweithio mewn partneriaeth  RCAHMW a sefydliadau eraill ledled yr ardal.

  4. Codi arian drwy grantiau i ariannur Prosiect.

  5. Rhoir gwaith samplo a dyddio Dendrocronoleg arbenigol ar gytundeb i gorff priodol.

  6. Cynnwys syrfewyr pensaernol lleol yn y broses o gynhyrchu deunyddiau i gyfannu archif RCAHMW, gan gynnwys cronfa ddata o elfennau strwythurol a samplwyd fel y gellir cael dadansoddiad teipolegol or datblygiad ar gyfer ymchwil pellach.

  7. Paratoi gwefan, archif o ffotograffau a deunyddiau artistig syn addas iw rannu ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd.

  8. Gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion i gynhyrchu deunyddiau dysgu ar gyfer Cyfnod Allweddol 2: y Tuduriaid.

  9. i) cynhyrchu llyfryn dwyieithog ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr,

ii) cynhyrchu adroddiad llawn a / neu lyfr a

iii) chynnal cyfres o sgyrsiau a lluniau a theithiau tywysedig er mwyn rhannu canlyniadaur Prosiect.

Cartref. Croeso. Newyddion. y Ffrindiau. Gwirfoddoli. Phase 3. Y Prosiect . Dendrochronoleg. Cysylltiadau. Links.