Dendro 09 © All Rights Reserved.  Privacy Policy | Terms of Use

Cartref. Croeso. Newyddion. y Ffrindiau. Gwirfoddoli. Phase 3. Y Prosiect . Dendrochronoleg. Cysylltiadau. Links.
DYDDIO HEN DAI CYMREIG
PROSIECT DENDROCRONOLEG GOGLEDD ORLLEWIN CYMRU 2009-2012

CYFEILLION Y PROSIECT DENDRO
Yng Nghyfarfod Blynyddol 2009 cyhoeddwyd sefydlu “CYFEILLION” y Prosiect Dendro.

Cymhwyster
Unrhyw unigolyn 18 mlwydd oed a throsodd ac unrhyw sefydliad sydd â diddordeb yng ngwaith y Prosiect.
Manteision ymuno â Chyfeillion y Prosiect Dendro:

Byddwch yn derbyn Cylchlythyr y Prosiect drwy’r post neu ar e-bost os yn bosib, 3-4 gwaith y flwyddyn. Mynychu darlithoedd, digwyddiadau arbennig ac ymweliadau am ddim. Mynychu digwyddiadau hyfforddi gwirfoddolwyr (mwyafswm o 2 aelod y sefydliad) am ddim (os oes lle).

Manteision “Cyfeillion” i’r Prosiect Dendro
Byddai gan y Prosiect restr bostio bendant o bobl/sefydliadau sydd â diddordeb.

Byddai Cyfeillion yn cynnig cymorth, cyngor, profiad a gwybodaeth i wahanol agweddau ar y Prosiect. Byddai unrhyw elw ariannol yn deillio o’r tanysgrifiadau a’r rhoddion cymorth yn cael eu trosglwyddo i’r Prosiect.

Sut i ddod yn “Gyfaill” i’r Prosiect
Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw llenwi’r ffurflen ar ddiwedd y Cylchlythyr hwn. Bydd tanysgrifio’n costio £10 fesul 1 neu 2 o bobl yn yr un cyfeiriad neu fesul sefydliad, yn ddyledus bob blwyddyn ar Ebrill 1. Mae tanysgrifiad 2009-10 yn cynnwys Ionawr 09 – Mawrth 10 ac mae’n ddyledus yn awr.

Byddem yn ddiolchgar IAWN pe byddech yn talu drwy Archeb Sefydlog. Byddai’n arbed amser ac arian i ni o ran nodiadau atgoffa, a gallwch roi’r gorau iddi ar unrhyw adeg drwy ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cyfeillion.

Byddem yn gwerthfawrogi hefyd pe byddai aelodau newydd yn llenwi datganiad Rhodd Cymorth os yw’n briodol, gan alluogi’r Prosiect i ennill 28c ym mhob £1.

Croesewir rhoddion yn fawr iawn. Anfonwch yr uchod â ffurflen gais wedi’i llenwi i Ysgrifennydd Cyfeillion y Prosiect (cyfeiriad  isod)

Cyfeillion Prosiect Mygedol - ond byddem yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth fel cyfeillion sy’n talu: Ymddiriedolwyr ac aelodau o’r Grŵp Ymgynghorol; Perchnogion yr adeiladau y cymerwyd samplau ohonynt; Gwirfoddolwyr Prosiect Cydnabyddedig.

Ysgrifennydd Cyfeillion y Prosiect Dendro
Keith Houghton, Rhaeadr Bach, 12 Coed Camlyn, Maentwrog, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 4LB. E-bost: Keith.Houghton4@btinternet.com.

Bydd ffurflen gais i ymuno â Chyfeillion y Prosiect ar ddiwedd y Cylchlythyr Rhif 3 a anfonir ar e-bost, neu ar ddalen ar wahân ar gyfer Cylchlythyron a anfonir yn y post.
Y Ffrindau

Cyfeillion Ffurflen gais

Rheolau Sefydlog

Cliciwch yma am y ffurflenni

Cartref. Croeso. Newyddion. y Ffrindiau. Gwirfoddoli. Phase 3. Y Prosiect . Dendrochronoleg. Cysylltiadau. Links.