BETH YDYW
Mae Dendrocronoleg (dod o hyd i ddyddiad torri coeden drwy ddyddiad blwyddgylch)
yn gweithio drwy ddefnyddior amrywiaeth yn lled y cylchoedd tyfiant blynyddol fel
y cawsant eu dylanwadu gan hinsawdd oedd yn gyffredin i ardal eang. Yr amrywiaethau
hyn a achoswyd gan yr hinsawdd syn fodd i briodoli dyddiadau calendr i goed na chawsant
eu dyddio wrth eu cymharu dilyniant a ddyddiwyd yn bendant. Os yw darn o goeden
yn gyflawn hyd at ymyl y rhisgl yna gellir pennu dyddiad torrir goeden yn fanwl gywir.
Bydd craidd tenaun cael ei dynnu ar draws cylchoedd tyfiant blynyddol y coed, heb
beri niwed iw cryfder nau sefydlogrwydd.
PAM EI FOD YN CAEL EI DDEFNYDDIO
Defnyddiwyd cynlluniau tai weithiau dros gyfnod hir. Oherwydd hynny dim ond bras
awgrym yw nodweddion pensaernol o ddyddiad tŷ gan nad oes modd gwybod a oedd adeilad
y cyntaf neur olaf a luniwyd ir cynllun hwnnw, neu pa mor gyflym y lledaenai ffasiynau
cynllun newydd mewn ardal.
Fodd bynnag byddai rhywun oedd yn bwriadu adeiladu tŷ yn torri neun prynu digon o
goed mawr, rhai derw fel arfer, ac ynan eu casglu ar y safle i adeiladur to ar prif
elfennau eraill. Gan fod coed wedi i sychun rhy galed iw weithio ai siapio, defnyddiwyd
coed heb ei sychu mewn tai a adeiladwyd cyn c.1650. Oherwydd hynny byddai�r adeiladau
cynnar hyn wedi cael eu codin fuan iawn ar l dyddiad diweddaraf torrir prif goed.
Gall cael y dyddiad torri ar gyfer prif drawstiaur to roi gwybodaeth ddefnyddiol
i ni am ddyddiad codi adeilad, a gellir gwneud cymariaethau wedyn mewn perthynas
lledaenur math yna o adeilad neu arddull y gwaith coed mewn ardal, gan ddefnyddio
tai sydd wedi goroesi heb newidiadau sylweddol.
Astronomer A. E. Douglass, founding father of Dendrochronology, photographed at the
Steward Observatory with Director K. Lundmark in the 1930s