Cynhaliwyd prosiect ar raddfa fechan, ag amcanion tebyg i’r un presennol, rhwng 2004 a 2008, gan ganolbwyntio ar dai mewn ardal tua 15km o ran radiws, gan ganolbwyntio ar Feddgelert ger yr Wyddfa, yng Ngwynedd. Samplwyd dros 25 o adeiladau ond cymharol ychydig o waith cofnodi pensaernïol neu ymchwil i hanes y tai a wnaed. Roedd gan y ddau adeilad â’r dyddiadau cynharaf doeau â nenffyrch, a choed wedi eu torri yng ngaeaf 1494-95 a 1508 yn y drefn honno. Cafwyd adroddiad am y prosiect yn y Vernacular Architecture Journal ar gyfer 2006 a 2007. Mae adroddiad manylach wrthi’n cael ei baratoi ar hyn o bryd.

 

Dosbarthwyd taflen ddwyieithog rad ac am ddim. Cliciwch YMA i’w gweld ar-lein.

Braslun adluniad gan Falcon Hildred o dŷ neuadd bychan â nenffyrch yn Eryri y cafwyd y dyddiad torri o 1508 o astudio’r coed.

 

PROSIECTAU PEILOT

Braslun adluniad o ffermdy â ffrâm nenffyrch steil canolog yn dyddio o 1533

 

Dendro 09 © All Rights Reserved.  Privacy Policy | Terms of Use

Brasluniau adluniad gan Falcon Hildred o gyfres o dri adeilad ar un fferm ddaliad ucheldirol. Mae (1) yn adeilad un llawr â nenffyrch yn dyddio o 1527. Mae (2) yn enghraifft gynnar o dŷ lloriog â thrawstiau yn dyddio o 1548. Ysgubor cae â thrawstiau yw (3) sy’n dyddio o 1704.

 

Cartref. Croeso. Newyddion. y Ffrindiau. Gwirfoddoli. Phase 3. Y Prosiect . Dendrochronoleg. Cysylltiadau. Links. Cartref. Croeso. Newyddion. y Ffrindiau. Gwirfoddoli. Phase 3. Y Prosiect . Dendrochronoleg. Cysylltiadau. Links.